Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) | The Draft Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill

 

ALN 18

Ymateb gan : Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG)

Response from : Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg (CYDAG)

 

Yn gyntaf, mae CYDAG o’r farn bod yna lawer i’w gymeradwyo yn y Bil drafft hwn. Yn gyffredinol mae’n gwella’r fframwaith a’r prosesau sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o’u cymharu gyda’r hyn sydd mewn bodolaeth ar hyn o bryd.

 

Fodd bynnag mae CYDAG am gyflwyno’r sylwadau canlynol a gaiff eu trafod yn helaethach yn yr ymateb hwn:

 

·         Mae yna ddiffyg sylfaenol yn y Bil drafft. Mae wedi hepgor yn llwyr unrhyw sylw at natur ddwyieithog Cymru – does dim sôn o gwbl am yr hawl i wneud defnydd cyfartal a chydwerth o’r Gymraeg a’r Saesneg nac i gynnal prosesau yn ddwyieithog

 

·         Hefyd, er bydd y Bil yn lleddfu rhai o anawsterau a phroblemau’r sefyllfa bresennol, fe allai arwain at symud problemau o lle maent ar hyn o bryd yn y broses i fan arall.

 

·         Cynyddu llwyth gwaith ysgolion ac, yn benodol, yr unigolion bydd yn y rôl Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY).

 

·         Anghenion hyfforddiant sylweddol ar bawb a fydd ynghlwm â gweithredu’r Bil drafft ar lawr gwlad: llywodraethwyr, Cydlynwyr (CADY), athrawon a staff cynorthwyo, ALl a phob corff allanol mae’r Bil yn cyfeirio atynt

 

·         Wrth newid rôl ysgolion ym mhrosesau ADY, mae’n eu gosod nhw mewn sefyllfa lle bydd yna dyndra o ddiddordeb

 

·         Ariannu digonol

 

·         Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

 

Y GYMRAEG

 

Nawr bod gan Lywodraeth Cymru’r pwerau i greu deddfwriaeth ei hunan mewn rhai meysydd o gyfrifoldeb a ddatganolwyd o Lywodraeth y DU i’n Llywodraeth ninnau yng Nghaerdydd, mae yna ddisgwyliad bod y ddeddfwriaeth a gynhyrchir yn adlewyrchu ein hunaniaeth ni fel gwlad a chenedl.

 

Fodd bynnag, trist yw gorfod datgan fod y Bil drafft hwn yn fethiant llwyr yn hyn o beth.

 

Pam? Does yr un cymal yn y Bil drafft sy’n sôn am natur ddwyieithog ein gwlad. Mae hynny’n wir drwy’r Bil drafft cyfan. Mae’n arbennig o wir yn y mannau o’r Bil lle mae’n cyfeirio at gynnwys plant, pobl ifanc a rhieni mewn unrhyw rhan o’r fframwaith a’r prosesau sy’n ymwneud ag ADY.

 

Dylai’r Bil ddatgan, fel un o egwyddorion sylfaenol y ddeddfwriaeth, bod gan bob plentyn, person ifanc, rhieni a theuluoedd yr hawl i gael pob ac unrhyw agwedd o brosesau’r Bil trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu yn ddwyieithog yn unol â dymuniadau’r unigolion.

 

Dylai’r hawl hwnnw fod ar gael o gychwyn y broses o benderfynu os oes gan unigolyn ADY ynghyd â’r prosesau byddai’n dilyn i ymateb i unrhyw ADY a thrwy gydol y broses hyd at y terfyn mewn achosion a fydd yn cyrraedd y Tribiwnlys.

 

Ar hyd y daith, dylai fod yn orfodol ar i bob corff sy’n ymwneud â’r prosesau sicrhau yr hawl i ddewis iaith/ieithoedd y drafodaeth gan gynnwys unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth.

 

Y lle i osod datganiadau egwyddorol sylfaenol o’r fath yw ymhob adran a chymal o’r Bil ei hun ac nid mewn unrhyw ddogfen arall megis Memorandwm neu God.

 

Heb wneud hynny, mae’r Bil drafft yn darllen fel Bil ar gyfer unrhyw wlad uniaith Saesneg lle nad oes unrhyw iaith sydd â hawliau cyfwerth a chyfartal fel sy’n bodoli rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.

 

Yn ogystal â datgan yr egwyddor sylfaenol o ran cael dewis ymwneud â fframwaith a phrosesau ADY trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog, dylid hefyd osod cymalau hollol glir i’r un perwyl ym mhob adran a chymal perthnasol o’r Bil. Yr adrannau mwyaf amlwg (er nid yn holl gynhwysfawr) yw’r adrannau hyn:

 

·         Cyfranogiad a mynediad i wybodaeth (para 6 i 7)

·         Llunio a chynnal cynlluniau datblygu unigol

·         Anghytundebau ac apeliadau (para 37 i 44)

·         Atodol (para 45 53) gan gynnwys gwneud yn orfodol i bob corff allanol yn ogystal â’r ysgolion, colegau ac ALl, i ddarparu gwasanaeth, tystiolaeth a chyngor trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu yn ddwyieithog yn unol â dymuniad unigolion a theuluoedd.

·         Cyffredinol (para 54 i 55)

·         Tribiwnlys Addysg Cymru (para 63 i 65), fel sy’n wir am y Bil drafft drwy’r trwch, does dim un sôn am yr angen i sicrhau yn bydd y Tribiwnlys yn gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog yn unol â dymuniad pob achos unigol a ddaw gerbron.

 

 

Symud anawsterau a phroblemau

 

Mae’r Bil yn ceisio lleihau neu waredu anawsterau sy’n codi wrth weithredu o dan y drefn bresennol.  Mae hynny, wrth reswm, i’w gymeradwyo

 

Fodd bynnag, cred CYDAG bod y Bil yn cymryd safbwynt gor-optimistaidd o ran y raddfa y bydd yr anawsterau a’r problemau yn lleihau.

 

Mae’r Bil yn symud llawer o’r cyfrifoldebau o du’r ALl i’r ysgolion. Mae yna ddau sylw i’w gwneud.

 

Yn gyntaf, un o amcanion y Bil yw creu mwy o gysondeb gweithrediad ar draws yr ALlau. Hyd yma, gwelwyd bod yna anghysonderau yn y modd mae’r ALlau wedi bod yn gweithredu.  Fodd bynnag, mae’r Bil yn symud y cyfrifoldeb o benderfynu a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY o’r ALL i’r ysgol.  Yr ysgol bydd hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar y ddarpariaeth fydd ei angen ar gyfer unrhyw blentyn ag ADY. Felly, o ran y sector uwchradd yn unig, mae hynny yn golygu dros 200 o wahanol ddehongliadau lle gynt roedd yna 22 ALl.

 

Mae hyn yn arwain ymlaen at y sylwadau nesaf.

 

Cynyddu llwyth gwaith ysgolion ac, yn benodol, yr unigolion bydd yn y rôl Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY)

 

Mae’n amlwg y gallai hynny arwain at fwy o anghysonderau a mwy o achosion o wrthdaro rhwng teuluoedd ac ysgolion.

 

Bydd hyn oll yn golygu cynnydd sylweddol yn llwyth gwaith ysgolion, ac yn benodol pob Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY). Bydd rôl y CADY yn un sylweddol iawn, iawn.  Yn wir, mae’r swydd ddisgrifiad a gynhwysir yn y Cod, yn  awgrymu’n gryf y bydd yn swydd llawn amser.  Tra bod hynny eisoes yn wir yn ein hysgolion mwyaf, nid yw bob amser yn wir yn ein hysgolion uwchradd llai (heb sôn am yr ugeiniau o ysgolion cynradd bychain sydd yng Nghymru).  Bydd yna oblygiadau staffio, ac felly cyllidol, ynghlwm â  gweithredu gofynion sylweddol y Bil drafft.

 

Hyd yn oed mewn sefyllfa lle mae, neu y bydd yn bosib, penodi person llawn amser i rôl y CADY, bydd gallu ac amser y person hwnnw i ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu yn brin iawn, iawn.

 

Anghenion hyfforddiant sylweddol ar bawb a fydd ynghlwm â gweithredu’r Bil drafft ar lawr gwlad: llywodraethwyr, Cydlynwyr (CADY), athrawon a staff cynorthwyo, ALl a phob corff allanol mae’r Bil yn cyfeirio atynt

 

Mae’r Bil drafft yn golygu newidiadau sylweddol a sylfaenol i’r holl gyfundrefn ADY.

 

Er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Bil bydd angen buddsoddiad sylweddol i osod hyfforddiant trylwyr yn ei le ar gyfer pob rhanddeiliad a nodir uchod.

 

Mae’n amlwg bod yna angen ariannu sylweddol i wneud hyn yn ogystal â dod o hyd i’r amser o ansawdd bydd ei angen ar yr hyfforddwyr a’r rhai bydd yn derbyn hyfforddiant.

 

Mae yna ddau ddimensiwn i’r hyfforddiant. Yn y lle cyntaf, bydd angen ton fawr o hyfforddiant wrth drosglwyddo o’r gyfundrefn bresennol i’r un newydd – ni ellir tan fesur maint yr her honno.

 

Yn ail, bydd angen hyfforddiant treigl parhaus i sicrhau bod yr holl rhanddeiliaid ar draws yr ystod lawn o gyrff yn medru hyfforddi staff ac aelodau newydd fel mae’r gweithlu’n newid ac aelodau newydd yn ymuno â chyrff.

 

Yn achos ysgolion, rhaid i’r Llywodraeth sylweddoli mai dim ond un darn swmpus o agenda newid mwy swmpus fyth yw ADY.  Mae’r gyfundrefn yn wynebu cyfres niferus o heriau mawrion eraill gan gynnwys cyflwyno meysydd llafur newydd ar gyfer TGUA Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn ogystal â chydio yn yr agenda heriol iawn y mae adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yr Athro Donaldson yn ei  osod.

 

Ni ellir gorbwysleisio cymaint o her yw hyn oll i Lywodraeth Cymru ac i’r holl rhanddeiliaid ac yn enwedig yr ysgolion a’u hathrawon.

 

Wrth newid rôl ysgolion ym mhrosesau ADY, mae’n eu gosod nhw mewn man sefyllfa lle bydd yna dyndra o ddiddordeb

 

Mae’r Bil yn gosod y cyfrifoldeb o benderfynu a oes gan blentyn/disgybl ADY ai peidio.  Os penderfynir fod gan unigolyn ADY, yr ysgol bydd hefyd yn gyfrifol am lunio Cynllun Datblygu Unigol ynghyd â phenderfynu ar ba adnoddau bydd eu hangen i foddio’r Anghenion ac i weithredu’r ddarpariaeth.

 

Ond yn y cyfnod presennol, a’r blynyddoedd nesaf, mae’r ysgolion, a’r gyfundrefn addysg yn gyffredinol, yn dioddef toriadau i’w cyllidebau.  Bydd eu sefyllfaoedd cyllidol yn rhai anodd iawn.

 

Gallai hynny greu tyndra o ddiddordeb rhwng bod yn gyfrifol am y prosesau ADY ar un llaw, a llunio a gweithredu cyllidebau cyfreithlon (h.y. yn y ‘du’) ar y llaw arall. Bydd hynny’n gosod ysgolion mewn sefyllfa anodd.  Fe all hefyd fod yn wreiddyn anghydfod a gwrthdaro rhwng ysgol a theuluoedd.

 

Ariannu

 

Eisoes mae’r sylwadau uchod wedi cyfeirio at yr angen am ariannu digonol i wireddu dyheadau’r Bil o osod cyfundrefn well yn ei lle.

 

Nid yn unig y bydd angen am ariannu digonol ond, hefyd, sicrhau y bydd modd adnabod pa gyllid a fwriedir ar gyfer gweithredu’r Bil yn y Grant Addysg Gyffredinol a sicrhau llwybrau archwilio clir o hynny drwy’r gyfundrefn o’r Llywodraeth lawr i’r ysgolion unigol.

 

Os na wneir hynny, bydd yn anodd i ysgolion weithredu mor effeithlon ag y mae’r ariannu a fwriadwyd gan y Llywodraeth yn ei ganiatáu.  Hefyd, os na ddosrennir yr arian mewn modd tryloyw gallai hynny arwain at anghysonderau o ran gallu ysgolion unigol i wneud eu gorau dros eu plant a’u disgyblion.

 

Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

 

Gan nad yw’r Bil drafft yn cyfeirio o gwbl at yr iaith Gymraeg, mae’n anesboniadwy sut gall y ddogfen Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg ddatgan  ar dudalen 9:

 

Bydd y Bil drafft hwn yn sicrhau y cynllunnir yn well ar gyfer anghenion dysgwyr ag ADY, gan gynnwys y rheini sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg, ac y bodlonir eu hanghenion yn well, a hefyd bod darpariaeth i fodloni ystod ehangach o anghenion yn cael ei diogelu’n statudol.

 

Cyfeiria paragraffau a sylwadau eraill yn yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg at y Cod sy’n mynd gyda’r Bil neu at ddogfennau a deddfwriaethau eraill lle y datgenir hawliau a rheidrwydd i weithredu’n bositif o ran y Gymraeg a gyda’r un statws â’r Saesneg.

 

Fodd bynnag nid yw’r Bil drafft ei hunan yn gwneud dim byd o’r fath.  Felly, mae CYDAG o’r farn bod yr Asesiad yn gamarweiniol ac yn ffocysu’n annigonol ar gynnwys y Bil drafft ei hunan.

 

Ar ran CYDAG

 

Yn ddiffuant

 

 

 

Arwel George

Swyddog Proffesiynol